Gofynnwch i’r plant feddwl am ddau ddiwrnod tua’r adeg yma o’r flwyddyn pan fyddwn ni’n bwyta rhywbeth arbennig - Diwrnod Crempog a Sul y Pasg. Fe allech chi ddweud fod un wedi bod tua thair wythnos yn ôl, a bod y llall i ddod mewn tua thair wythnos. Soniwch fod bwyd neilltuol wedi bod yn cael ei gysylltu yn y gorffennol â’r Sul nesaf hefyd (neu bryd bynnag y bydd y pedwerydd Sul yn y Garawys). Cwstard wy, waffls a waffers oedd rhai o’r bwydydd yma, ond y prif beth arbennig i’w fwyta ar y diwrnod yma oedd teisen o’r enw Teisen Simnel. Ydych chi wedi clywed sôn am Deisen Simnel?
Ond pam roedden nhw’n bwyta teisen arbennig ar y diwrn0d neilltuol yma? Er mwyn cael yr ateb, rhaid i ni fynd yn ôl mewn hanes i’r dyddiau y byddai bechgyn a merched ifanc yn gorfod gadael cartref i fynd i ‘weini’, neu i weithio mewn tai neu ar ffermydd. Doedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn fawr h?n na phlant hynaf yr ysgol yma pan fyddan nhw’n mynd i’r ysgol uwchradd. A doedden nhw ddim yn cael mynd adref yn aml, felly roedd cael diwrnod i fynd i ymweld â’u teuluoedd yn achlysur arbennig iawn.
Un o’r dyddiau arbennig yma oedd un dydd Sul yng nghanol y Garawys. Y Garawys yw’r cyfnod o chwe wythnos cyn y Pasg. Mae’r cyfnod yn dechrau â Dydd Mercher y Lludw (y diwrnod ar ôl Dydd Mawrth Ynyd, neu Ddydd Mawrth Crempog), ac yn dod i ben ar Sul y Pasg. Yn ystod cyfnod y Garawys mae pobl yn cofio am yr adeg yr aeth Iesu i’r anialwch er mwyn cael meddwl am ei fywyd. Fe fu’n amser anodd iddo, ac roedd yn newynu. Felly mae Cristnogion yn ceisio cadw cyfnod y Garawys fel adeg y byddan nhw’n byw bywyd syml. Weithiau maen nhw’n peidio gwneud rhywbeth neilltuol, neu’n ceisio gwneud rhywbeth neilltuol er mwyn pobl eraill, neu’n fyw’n well eu hunain.
Ond hanner ffordd trwy’r Garawys daw Sul y Fam, diwrnod lle caiff pawb ymlacio ychydig a mwynhau eu hunain. Gannoedd o flynyddoedd yn ôl fe fyddai pobl yn dathlu trwy gynnal gwasanaeth arbennig. Yn ystod y gwasanaeth hwnnw fe fyddai pobl yn gafael yn nwylo’i gilydd ac yn ffurfio cylch mawr o gwmpas yr eglwys ac yn cerdded o’i chwmpas law yn llaw i ddangos faint roedden nhw’n ei charu. Yn nyddiau Oes Victoria, a chyn hynny, fe fyddai’r gweision a’r morynion yn cael diwrnod rhydd i fynd i ymweld â’u teuluoedd a dangos eu cariad tuag at eu mamau trwy fynd ag anrhegion iddyn nhw. Un o’r anrhegion traddodiadol fyddai Teisen Sinmel. Yng Ngogledd Lloegr, Teisen Ffigys oedd yr anrheg draddodiadol. Fe fyddai’r merched yn mynd â thusw o flodau’r gwanwyn i’w mamau hefyd. Fe fyddai’r blodau’n cael eu bendithio yn yr eglwys i ddechrau cyn iddyn nhw’u cyflwyno nhw i’w mamau.
Trwodd a thro, fe fyddai Sul y Fam yn cael ei ystyried yn ddiwrnod pleserus i bawb ac yn adeg arbennig ar y flwyddyn, yn enwedig i bobl fyddai’n byw yng nghefn gwlad. Rydym ni’n dal i gofio Sul y Fam heddiw, ond mae’n debygol mai bocs o siocled neu dusw o flodau gaiff ei gyflwyno gyda cherdyn cyfarch yn hytrach na Theisen Simnel. Ond mae’r cariad a’r gwerthfawrogiad yn dal yr un fath.
|