Collective Worship Resource Collective Worship Collective Worship

<< Tudalen Hafan Adnodd Cydaddoli



OED: Plant yr Adran Iau


THEMA: Duw yn rhoi Bywyd Newydd


CEFNDIR:

Datblygu dealltwriaeth bod gwaith yr Ysbryd Glan yn dod â bywyd.


PARATOAD / ADNODDAU:

Fe fydd arnoch chi angen:

  • Maneg neu byped llaw a/neu fal?n.
Darlleniadau o’r Beibl: Ioan 14:16-17; Galatiaid 5:22-23; Actau 2: 1-8, 12-13. Fe allech chi ddewis nifer o ddarllenwyr i helpu cyflwyno’r rhain.


CYFLWYNIAD:

Rydw i wedi dod â rhywbeth efo fi heddiw. Mae gen i ddwy ohonyn nhw, mewn gwirionedd, ac maen nhw yn fy mhoced i.  Doedd dim rhaid i mi eu defnyddio ar fy ffordd yma, felly maen nhw’n dal i fod yn fy mhoced.  Oes rhywun yn gallu dyfalu beth sydd gen i? Os ydyn nhw yn fy mhoced i, ydyn nhw’n fach neu’n fawr? Cliw i chi: 'Fe fydda i’n eu defnyddio nhw pan fydd hi’n oer allan'.

Ie, pâr o fenig sydd gen i.

Disgrifiwch y faneg yma i mi. Pa liw yw hi? O ba ddeunydd mae hi wedi’i gwneud? Ydi o’n ddeunydd trwchus, neu denau? Ai maneg llaw dde neu faneg llaw chwith yw hi? Ydi’r faneg yn gallu symud ohoni ei hun?

Na, mae maneg yn edrych yn hollol ddifywyd ar ben ei hun. Dydi hi ddim yn gallu codi dim byd na gafael mewn dim, na chwifio i ddymuno ffarwel, na chadw’ch llaw yn gynnes chwaith, ar ben ei hun! Mae’n hollol ddiwerth fel hyn.

Sut gallwch chi wneud maneg yn beth defnyddiol? Ie - mae’n rhaid i chi ei gwisgo! Dyna ni - gwelliant mawr - nawr mae fy llaw yn gynnes braf, ac yn llenwi’r faneg. Mae’r Beibl yn annog Cristnogion i gael eu llenwi
â’r Ysbryd Glân. Wedi i mi roi fy llaw yn y faneg, roedd fy llaw yn gallu rheoli’r faneg a gwneud iddi symud - fe wnes i roi bywyd ynddi.  Edrychwch, mae’r bysedd yn symud, yn cyfarch, yn pwyntio, rhoi arwydd i stopio, dangos y ffordd i chi, eich galw yma, yn gallu gwneud pob math o bethau, a gallu arwyddo pob math o negeseuon.  Mae gan fy llaw reolaeth lawn ar y faneg. Rhan o waith Ysbryd Glân Duw yw rheoli bywydau Cristnogion mewn ffordd dda.

Ydych chi’n gallu gweld fy llaw yn y faneg?  Nac ydych. Rhowch un gair i mi am rywbeth dydych chi ddim yn gallu ei weld - mae’n anweledig
. Yn ail bennod Llyfr yr Actau yn y Beibl, rydyn ni’n dysgu llawer am waith yr Ysbryd Glân. Yno, mae’r Ysbryd Glân yn cael ei ddisgrifio fel gwynt nerthol.  Pam rydych chi’n meddwl bod awdur Llyfr yr Actau wedi dewis y gymhariaeth honno? Ie, am fod y gwynt hefyd yn rhywbeth na fedrwch ei weld - yn anweledig. Pos sydyn: Os na allwch chi weld y gwynt, sut rydych chi’n gwybod ei fod yno, neu fod y fath beth yn bod?  Gallwch, fe allwch chi weld ei effaith - dail yn symud yn yr awel, er enghraifft, baner yn chwifio, ac ati. Pan fydd Ysbryd Glân Duw ar waith mewn eglwys, mewn cymuned neu fywyd unigolyn, fe allwch chi weld ei effaith yno hefyd.  Efallai y gallai rhai ohonoch chi ymchwilio er mwyn dod o hyd i enghreifftiau lle mae’n sôn am hyn yn y Testament Newydd.

Ar ei phen ei hun, dydi’r faneg ddim yn gallu codi unrhyw beth.  Pwy sy’n cofio beth sydd ei angen arni er mwyn iddi allu codi’r llyfr yma?  Oes, mae arni angen llaw y tu mewn iddi i’w helpu.  Mae’r Ysbryd Glân hefyd yn cael ei ddisgrifio gan Iesu fel un sy’n helpu, neu un sy’n gallu ein helpu i wynebu pethau, a’n helpu i wneud pethau fyddai’n amhosib fel arall.

'Ac fe ofynnaf finnau i’m Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr arall i fod gyda chwi am byth, Ysbryd y Gwirionedd.' (Ioan 14:16).

Fe wyddai Iesu y byddai ei ddisgyblion ar goll hebddo, ond yma mae’n addo y bydd Duw yn anfon ei Ysbryd Glân i fod gyda nhw am byth. A dyna wahaniaeth fu yn eu bywydau wedi i’r Ysbryd Glân ddod,(edrychwch ar Actau 2).

Beth mae’r faneg yn ei wneud nawr? Ie, pwyntio.  Rydyn ni eisoes wedi clywed bod yr Ysbryd Glân yn un sy’n helpu, ond hefyd rydym nawr yn clywed fod yr Ysbryd Glân yn gallu dangos y ffordd neu arwain pobl at Dduw. 'Os ydych wedi f’adnabod i, byddwch yn adnabod y Tad hefyd. Yn wir, yr ydych bellach yn ei adnabod ef ac wedi ei weld ef.' Ioan 14:7

Cyn i ni orffen, fe hoffwn i chi wneud un peth arall i mi.  Smaliwch eich bod yn pwyntio’ch bys at rywun ac yn dwrdio.  Fe hoffwn i chi gyd bwyntio’ch bys ataf fi a smalio fy nwrdio.  Dyna chi dwrdiwch o ddifrif!  Nawr rydw i eisiau i chi rewi ac aros yn yr ystum yna.  Edrychwch ar eich llaw, yr un sy’n pwyntio ataf fi.  Beth welwch chi?  Sawl bys sy’n pwyntio ataf fi?  Ie, dim ond un bys.  I ba gyfeiriad mae eich bawd yn pwyntio?  I fyny.  Ie, ac i ba gyfeiriad y mae’r tri bys arall yn pwyntio?  Dyna ni, yn ôl atoch chi!  Mae nifer fwy o fysedd yn pwyntio’n ôl atoch chi nag sydd yn pwyntio ataf fi!!!

Rhan o waith yr Ysbryd Glân yw dangos ein bod yn aml yn gweld bai pobl eraill (yr un bys sy’n pwyntio ataf fi). Er hynny, mae’r bawd yn pwyntio at Dduw, a phan fyddwn ni’n dechrau edrych ar ein bywydau ein hunain rydyn ni’n sylweddoli bod gennym ninnau lawer o feiau ein hunain (y tri bys sy’n pwyntio’n ôl atom ni ein hunain). Felly mae arnom ni angen maddeuant hefyd.

Yn yr un ffordd ag y mae fy llaw yn rhoi bywyd i’r faneg yma, felly y mae’r Ysbryd Glân, er ei fod yn anweledig, yn rhoi bywyd i rai fel ni, trwy helpu ac arwain pobl at Iesu Grist. 

Nawr gadewch i ni wrando ar ddarlleniadau’r gwasanaeth yma.


DARLLENIAD:

Ioan 14:16-17; Galatiaid 5:22-23; Actau 2: 1-8, 12-13.


GWEDDI:

Annwyl Dduw,
Diolch nad wyt ti wedi ein gadael ni ar ben ein hunain.

Diolch bod dy Ysbryd Glân gyda ni heddiw, yn ein helpu ac yn dangos y ffordd i ni atat ti, trwy Iesu Grist.

Bydded i ras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân aros gyda ni i gyd.
Amen


GWEITHGAREDDAU DILYNOL:

  1. Chwiliwch am gyfeiriadau at Ysbryd Duw neu’r Ysbryd Glân yn yr Hen Destament (e.g.Genesis1:2; Exodus 31:3; Numeri 11: 23-29; Salmau 104:30; Eseciel 11:5; Eseciel 36: 26-27; Joel 2: 28-29).
  2. Chwiliwch yn y Testament Newydd am enghreifftiau o Iesu yn sôn am waith yr Ysbryd Glân (Ioan 15:26, Ioan 16:13-15; Luc 12:11-12; Actau 1:8).
  3. Edrychwch ar y rhannau yma o’r Beibl i weld sut mae’r Ysbryd Glân yn cael ei ddisgrifio: Actau 2:2-3. Fe allech chi ystyried llunio erthygl bapur newydd yn seiliedig ar yr hanes yn Actau 2:1-13 ac Actau 3:1-10.

 


<< Tudalen Hafan Adnodd Cydaddoli



Collective Worship Collective Worship Collective Worship Collective Worship