Gwahoddwch dri o’r plant sy’n ymadael i oleuo’r canhwyllau ar y bwrdd canolbwyntio, fel rydych chi’n darllen y geiriau yma:
(Goleuo’r gannwyll gyntaf...)
'Rhowch heibio’r pethau sydd wedi digwydd yn y gorffennol,
ac edrychwch i’r dyfodol.'
(Goleuo’r ail gannwyll...)
'Ymestynnwch allan i rannu ym mywydau pobl eraill,
a chael cyffwrdd byd ehangach.'
(Goleuo’r drydedd gannwyll...)
'Byddwch mewn tangnefedd â’r naill a’r llall,
a gofalwch am eich gilydd.'
Chwaraewch gerddoriaeth addas wrth i’r plant, y mae eu cyfnod yn yr ysgol yn dod i ben, estyn carreg o’r fasged a’i gosod ar ben y pentwr cerrig fel maen nhw ymadael â’r gwasanaeth. |