OED: Babanod a Phlant yr Adran Iau
|
THEMA: Wyau Pasg
|
NOD / PARATOAD:
|
Defnyddio Wyau Pasg fel rhywbeth i ganolbwyntio arnyn nhw er mwyn meddwl am y dathliad Cristnogol o’r Pasg.
Fe fydd arnoch chi angen:
- casgliad o Wyau Pasg siocled - o wahanol faint
- un ‘creme egg’
- wy wedi’i ferwi’n galed ac wy ffres
- carreg - tua’r un maint ag wy ac mor debyg â phosib o ran siâp
- rhai cerrig eraill mawr, crwn os yw’n bosib
- bagiau
- darnau o Wy Pasg (dewisol, a heb fod yn rhy ddrud)
Hefyd trefnwch fod gennych bump o blant i’ch helpu ac un i ddarllen o’r Beibl, Luc 24:1-3 (efallai y gallech chi ddefnyddio fersiwn addas ar gyfer plant). |
CYFLWYNIAD:
|
Rhowch wy wedi’i ferwi’n galed mewn bag, a’r garreg siâp wy mewn bag arall. Gwahoddwch ddau blentyn ymlaen i deimlo’r bagiau, heb edrych ar y cynnwys, a dyfalu beth sydd yn y ddau fag. Rhowch gyfle i’r ddau deimlo’r bagiau yn eu tro. Holwch a yw’r ddau beth yr un fath (fe ddylen nhw fod yn debyg). Gofynnwch iddyn nhw ddweud wrthych chi beth sydd yn y bagiau.
Gwahoddwch ddau blentyn arall i ddod i dynnu’r wy a’r garreg o’r bagiau a’u dangos i weddill y plant. Dangoswch fag arall i’r plant. Yn hwn mae’r ‘creme egg’. Gofynnwch i blentyn arall ddod ymlaen i deimlo’r bag yma a dyfalu beth sydd ynddo. Ai wy neu garreg sydd ynddo? Wedi iddo ddyfalu, gofynnwch i’r plentyn dynnu’r ‘creme egg’ allan a’i ddangos i bawb. Gwnewch sylw o’r ffaith bod pawb, mae’n debyg, wedi gweld yr wyau yma yn y siopau ers wythnosau, a sylwch fod hwn eto, fel yr wy sydd wedi’i ferwi’n galed yn debyg o ran siâp i garreg fechan. |
DATBLYGIAD:
|
Dangoswch y casgliad o gerrig mwy, a holwch y plant a yw’r rhain yn eu hatgoffa o’r wy wedi’i ferwi’n galed neu’r ‘creme egg’ (na, maen nhw’n fwy).
Dangoswch y casgliad o Wyau Pasg siocled mwy, a’u gosod ar fwrdd o’ch blaen. Gofynnwch i’r plant ganolbwyntio ar y rhain, yr Wyau Pasg mawr ac ar y cerrig mawr tra maen nhw’n gwrando’n ofalus ar eiriau o’r Beibl. Gofynnwch i’r plentyn sy’n darllen i chi ddod ymlaen a darllen yr adnodau o Luc 24:1-3.
Holwch y plant ydyn nhw, nawr, yn gallu dyfalu pam y mae wyau Pasg yn cael eu rhoi a’u bwyta ar yr adeg yma o’r flwyddyn. Sefydlwch fod yr wy yn ein hatgoffa o’r garreg a symudwyd oddi ar y bedd adeg y Pasg cyntaf, a’r bobl yn gweld bod y bedd yn wag.
Dangoswch yr wy ffres. Eglurwch i’r plant nad yw’r wy yma wedi’i ferwi’n galed. Holwch ydyn nhw wedi bod ar fferm ryw dro, ac wedi gweld iâr yn eistedd ar nyth ac wyau ynddi. Soniwch fod yr iâr yn eistedd ar yr wyau ac yn eu cadw’n gynnes tra mae’r cywion bach yn datblygu y tu mewn i’r plisgyn, ac ymhen amser, yn deor.
Ail ddarllenwch yr adnodau o’r Beibl. Oes unrhyw un yn gwybod am reswm arall pam fod Wyau Pasg yn cael eu rhoi? Trafodwch fod wy yn symbol o fywyd newydd a bod Cristnogion, ar adeg y Pasg, yn cofio bod Iesu wedi marw ond wedi dod yn ôl yn fyw wedyn.
Canwch emyn sy’n ymwneud â’r Pasg, neu’r emyn ‘Arglwydd y Ddawns’ (gan roi sylw arbennig i’r pennill olaf). |
MYFYRDOD:
|
Gofynnwch i’r plant ganolbwyntio ar un o’r cerrig mawr sydd gennych chi, gan feddwl am stori’r Pasg cyntaf pan symudwyd y garreg fawr oddi ar y bedd. Gwrandewch ar y weddi yma:
'Diolch am yr hwyl gawn ni’r adeg yma o’r flwyddyn, wrth i ni roi a derbyn Wyau Pasg. Diolch am bob arwydd welwn ni o fywyd newydd tua’r adeg yma - anifeiliaid newydd eu geni, fel ?yn bach, adar bach yn adeiladu nythod ac yn cario bwyd i’w cywion bach wedi iddyn nhw ddeor, blagur a dail newydd ar y coed, blodau yn y gerddi ac ar ochrau’r ffyrdd. Helpa ni i gofio stori’r Pasg Cyntaf.'
DIWEDDU:
Naill ai canu emyn traddodiadol arall am y Pasg
NEU
Rannu a bwyta tameidiau o Wy Pasg siocled. Tra byddwch chi’n gwneud hyn, gwrandewch ar gerddoriaeth addas.
|
CYSYLLTIADAU Â RHANNAU ERAILL O’R CWRICWLWM: |
ADDYSG GREFYDDOL
Stori’r Pasg: ysgrifennu creadigol o safbwynt naill ai un o’r gwragedd neu un o’r disgyblion yn canfod y ‘bedd gwag'
Dathlu’r Pasg yn yr Eglwys: Canhwyllau’r Pasg
CELF / DYLUNIO
Addurno wyau wedi’u berwi’n galed
Cynllunio Bonedi Pasg
Gwneud Cerdyn Pasg
DATBLYGIAD DIWYLLIANNOL / DAEARYDDIAETH
Dathlu’r Pasg yng ngwahanol wledydd y byd: rholio wyau, cracio wyau, Cwningod y Pasg, Helfa Wyau etc. |
|
|