Collective Worship Resource Collective Worship Collective Worship

<< Tudalen Hafan Adnodd Cydaddoli



OED: Babanod a Phlant yr Adran Iau (yn enwedig Plant yr Adran Iau)


THEMA: Yr Ystwyll: Hanes datguddiad Iesu i’r Doethion, yn ôl Mathew yr Ysgrifennydd


PARATOAD:

  • Darllenwch stori’r Doethion yn Mathew 2.
    Mae hon yn stori adnabyddus iawn, ac efallai eich bod wedi ei chynnwys yn eich gwasanaethau Nadolig, neu gynhyrchiad G?yl y Geni.  Mae’r cyflwyniad yma wedi’i addasu, felly mae’n briodol i chi ail adrodd y stori. Yn ôl y traddodiad, yn y calendr Cristnogol, Ionawr 6 yw dyddiad Yr Ystwyll. Yn ystod  Yr Ystwyll rydyn ni’n dathlu bod y Doethion wedi gweld Iesu, a bod cenhedloedd eraill wedi dod i wybod am Iesu, nid Iddewon yn unig.
  • Os nad yw’r plant yn gyfarwydd â’r efengylau a’u cyd-destun, fe fyddai’n briodol dweud rhywbeth ar y dechrau sy’n awgrymu eich bod yn bwriadu mynd yn ôl mewn amser a/neu gyfeirio’n ôl at y Nadolig.
  • Fe fydd arnoch chi angen:
    • Tiwnig a phenwisg ddwyreiniol i oedolyn eu gwisgo er mwyn actio 'Mathew'
    • Tair sgrôl wedi’u labelu:
      • Pennod 1 - Coeden Deulu
      • Pennod 2 - Geni Iesu
      • Pennod 3 - Ymweliad y Doethion
    • Bwrdd, a chadair i Mathew eistedd arni wrth y bwrdd, papur ysgrifennu a deunyddiau ysgrifennu a’r tair sgrôl ar y bwrdd
    • Beibl
Nodwch y bydd arnoch chi angen yr eitemau yma eto ar gyfer y gwasanaeth ‘Y Garawys’ ymhen ychydig wythnosau, pan fydd 'Mathew' yn cwrdd â’r plant eto.


CYFLWYNIAD:

Mae’r arweinydd, wedi’i wisgo fel Mathew, Ysgrifennydd yr Efengyl, yn eistedd wrth y bwrdd. Mae’n dweud stori’r Doethion fel mae’n ei hysgrifennu.

'Helo! Fy enw i yw Mathew. Neu fe allwch i fy ngalw i’n Lefi os hoffech chi - dyna fy enw yn Hebraeg. Rydw i’n cael fy adnabod wrth y ddau enw!

Rydw i ar ganol ysgrifennu rhywbeth.  Rydw i’n ysgrifennu llyfr.   Yn yr oes yr oedd Iesu yn byw ynddi, ar sgroliau y byddai pobl yn ysgrifennu dogfennau mawr.  Doedd ganddyn nhw ddim llyfrau fel sydd gennych chi heddiw a llawer o dudalennau iddyn nhw, ond papurau hir wedi’u rholio o’r ddau ben.  A dyma bennod gyntaf y llyfr (yn codi sgrôl Pennod Un i fyny
).
Mae’r bennod yma’n rhestru enwau aelodau teulu Iesu - yn ôl  i amser Adda. Fe gymrodd hi hydoedd i mi ysgrifennu’r bennod yma (yn codi sgrôl Pennod Dau i fyny
).
Dyma’r hanes am eni Iesu....  Ond, gan eich bod newydd fod yn dathlu hynny, rydw i’n cymryd eich bod chi’n gwybod yr hanes hwnnw!  Fe ysgrifennais i’r hanes er mwyn i bobl fel chi ddod i wybod am yr hanes, filoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach.  Ie, hanes Iesu.  Dyna i chi enw! Mae’n golygu ‘Gwaredwr’, neu’r un sy’n ein hachub. Ac amdano ef y mae fy llyfr i.

Fe gefais i’r manylion am ei fywyd gan bob math o wahanol bobol oedd yn ei adnabod - pobl oedd yn aelodau o’i deulu, ei ffrindiau a phobl oedd wedi bod yn ei ddilyn (rydyn ni’n galw’r bobl hynny’n Gristnogion erbyn) yn ogystal â phobl oedd wedi digwydd gweld beth oedd yn mynd ymlaen pan oedd Iesu o gwmpas.  Er enghraifft, fe gefais i air ag un o’r gwarchodlu ym Mhalas Herod. Mae’r dyn hwnnw wedi ymddeol erbyn hyn wrth gwrs... Beth bynnag, rydw i eisiau dweud wrthych chi am y bennod nesaf rydw i am ei hysgrifennu. Efallai y gallwch chi fy helpu fel rydw i’n mynd yn fy mlaen. Dyma beth yw enw’r bennod yma (yn codi sgrôl Pennod Tri i fyny
). Ymweliad y Doethion.


Y STORI :

Herod oedd y brenin ar y pryd - ac roedd Herod yn falch iawn o gael bod yn frenin!  Cael rheoli dinas Jerwsalem, byw mewn palas gwych, cael nifer fawr, fawr o weision a morynion i weini arno, a chynghorwyr i’w gynghori ar bob peth dan haul!  Doedd Bethlehem ddim ymhell iawn o Jerwsalem, a dyna lle roedd Mair wedi cael ei baban bach, ac wedi’i enwi’n Iesu.  Ymhen rhai dyddiau wedi’r geni, roedden nhw’n dal i fod ym Methlehem, heb fynd yn ôl eto i’w cartref yn Nasareth. Fe soniodd y dyn hwnnw, oedd yn un o’r gwarchodlu ym mhalas Herod ar y pryd, wrtha i am dri dieithryn ddaeth i Jerwsalem un noson yr adeg honno.  Fe ddywedodd y tri eu bod wedi dilyn seren arbennig.  Mae’n amlwg eu bod yn astudio’r sêr, ac roedden nhw wedi gallu darganfod pethau trwy astudio siartiau arbennig o’r sêr. Roedd y seren arbennig honno wedi dangos iddyn nhw fod brenin newydd yn mynd i gael ei eni.  Felly, fe aethon nhw ar eu hunion i’r man lle byddech chi’n disgwyl i frenin newydd gael ei eni, sef mewn palas yn y brif ddinas, Jerwsalem. Herod oedd y brenin a doedd dim brenin arall i fod yno.  Fe allwch chi ddychmygu sut roedd Herod yn teimlo pan glywodd hyn.  Roedd e’n wyllt wallgo’!  Roedd yn ddychrynllyd o ddig!

"Brenin newydd yn wir!  Fi yw’r unig frenin yn yr ardal yma!  Rydych chi wedi gwneud camgymeriad mawr, mae’n rhaid!  Does dim baban newydd ei eni sy’n frenin yma!" meddai.
Yna fe alwyd pwyllgor pwysig iawn.  Daeth pawb oedd yn gwybod am y gyfraith yno, a rhai offeiriadon o’r deml.

(Yn wawdlyd
) "Lle mae’r 'brenin newydd’ yma, sydd i fod yn frenin, wedi cael ei eni?" gofynnodd Herod iddyn nhw. "Dewch o hyd i’r wybodaeth yma a rhowch wybod i mi!"

Wel, roedden nhw’n gwybod yr ateb i’w gwestiwn eisoes...

"Y... y..., ym Methlehem, eich Mawrhydi. Mae wedi cael ei ysgrifennu yn Llyfr y Proffwydi."

"Iawn!" meddai Herod. "Ewch ar ôl y sêr-ddewiniaid yna, a gorchymyn iddyn nhw ddod yn ôl yma."

Wedi iddyn nhw ddod yn ôl, fe ofynnodd Herod  iddyn nhw pa bryd yr oedden nhw wedi sylwi gyntaf ar y seren arbennig yma. Yna fe gafodd syniad.

"Ewch chi i Fethlehem, chwiliwch am y brenin yma rydych chi’n sôn amdano, ac wedyn dewch yn ôl ataf fi i ddweud wrthyf fi ble mae cael hyd iddo, fel y gallaf finnau hefyd fynd i’w addoli!"

Felly, yn y nos, fe aeth y doethion eto ar eu taith, ar gefn eu camelod i gyfeiriad Bethlehem.  Fel roedden nhw’n teithio, roedden nhw’n edrych i fyny i’r awyr, a dyna lle’r oedd y seren eto, mor ddisglair ag erioed!  Roedd hi’n union fel y gwelson nhw hi ar ddechrau eu taith rai misoedd yn ôl, ond yn fwy ac yn llachar iawn erbyn hyn, ac roedd hi’n disgleirio yn union uwchben Bethlehem.

Ac yn ôl y sôn, pan ddaethon nhw o hyd i’r lle, fe aethon nhw i mewn yn dawel a holi am y brenin newydd.  Pan welson nhw Iesu, fe syrthiodd y tri ar eu gliniau a’i addoli!  Roedden nhw wedi dod ag anrhegion iddo.
(Gadewch i’r plant ddweud wrthych chi beth oedd yr anrhegion - fe allech chi ysgrifennu enwau’r anrhegion ar eich sgrôl fel mae’r plant yn eu henwi.
)
Fe roeson nhw aur iddo - aur i frenin. Thus - mae thus i rywun sanctaidd. Myrr - mae myrr yn symbol o ddioddef. Ac roedd mam Iesu’n gwybod hynny. Roedd hynny’n ei gwneud hi’n drist.  Roedd hi’n gwybod y byddai’r baban bach yma, ryw ddydd, yn dioddef.

Yna fe aeth y Tri G?r Doeth yn ôl i’w gwlad eu hunain.  Ddaethon nhw ddim yn ôl i’r palas meddai’r un oedd yno’n aelod o’r gwarchodlu, ac sydd wedi bod yn sôn wrthyf fi am yr hanes. Er bod Herod wedi gofyn iddyn nhw ddod yn ôl i ddweud wrtho, ddaethon nhw ddim.  Yn ôl y sôn, fe gawson nhw rybudd mewn breuddwyd yn dweud wrthyn nhw am beidio â mynd yn ôl i balas Herod, ond mynd yn ôl i’w gwlad ar hyd ffordd arall.  Un arall gafodd freuddwyd tua’r un pryd oedd Joseff. Cafodd ei gynghori i fynd â Mair a Iesu i’r Aifft, ac aros yno nes byddai Herod wedi marw.  A dyna beth wnaethon nhw.

Ar ôl yr holl flynyddoedd yma, rydw i’n dal i ryfeddu nad rhywbeth i’r Iddewon yn unig oedd y baban Iesu. Roedd pobl yn dod o bell i’w addoli. Roedd Iesu wedi dod i’r byd i bawb!

(Mae Mathew yn codi ac yn casglu ei sgroliau a’i offer ysgrifennu
.)  Rhaid i mi fynd - rydw i eisiau ysgrifennu am Ioan Fedyddiwr nesaf, felly rydw i’n mynd i wneud cyfweliad arall ar gyfer y gwaith hwnnw.  Gyda llaw, yn eich amser chi, mae’r llyfr eisoes wedi’i gyhoeddi... fe allwch chi ddarllen y stori gyfan yn y Beibl os hoffech chi ...'

Mae Mathew yn mynd allan.


DATBLYGIAD - STORI MATHEW:

Cyn i Mathew gwrdd â Iesu, ei enw oedd Lefi. Doedd Lefi ddim yn boblogaidd am ei fod yn casglu trethi. Roedd hyn yn golygu ei fod yn gweithio i’r Rhufeiniaid.  Yn aml iawn, roedd casglwyr trethi yn farus iawn ac fe fydden nhw’n twyllo pobl trwy fynnu mwy o arian ganddyn nhw na’r hyn oedd arnyn nhw. Doedd Lefi ddim yn eithriad; a’r cyfan oedd ar ei feddwl oedd casglu cymaint ag a allai o arian, a dod yn ddyn cyfoethog iawn.

Un diwrnod daeth Iesu ato a gofyn iddo ddod i’w ddilyn. Roedd pawb wedi synnu fod Iesu hyd yn oed wedi siarad â Lefi. Doedden nhw ddim yn gallu deall pam roedd Iesu eisiau bod yn ffrindiau ag ef. Roedden nhw wedi synnu mwy pan welson nhw fod Mathew wedi cytuno i ddilyn Iesu. Derbyniodd Iesu wahoddiad Mathew i fynd i’w dy i gael pryd o fwyd gyda’i ffrindiau. (I nifer o’r rhai oedd yn gwylio hyn, roedd yn beth rhyfedd iawn - doedd neb yn hoffi casglwyr trethi, a neb eisiau dim i’w wneud â nhw.)

O’r diwrnod anghyffredin hwnnw, galwyd Lefi yn Mathew, ac ystyr yr enw yw ‘Anrheg yr Arglwydd'. Roedd Mathew wedi gadael ei hen fywyd, ei holl gyfoeth a’i rym, ac wedi rhoi’r gorau i bopeth er mwyn dod yn un o ddilynwyr Iesu. Fe roddodd weddill ei fywyd i ddweud wrth eraill am Iesu, ac fe ysgrifennodd hanes Iesu, dyna Efengyl Mathew. Hwn yw llyfr cyntaf y Testament Newydd.


DARLLENIADD:

Mathew 2:1-15.  Efallai y gallai un o’r plant ddarllen yr adnodau yma, o bosib o fersiwn sy’n addas ar gyfer plant.


GWEDDI:

Arglwydd Dduw, rydyn ni’n diolch i ti fod Iesu wedi’i ei eni i fod yn Waredwr i’r holl bobl.
Diolch fod Mathew wedi ysgrifennu am y seren, ac am y dynion a ddilynodd y seren,
fel bod pobl fel ni nawr yn gallu dod i wybod am dy gariad di tuag at yr holl fyd.
Amen.


MYFYRDOD:

Gofynnwch i’r plant feddwl yn dawel am foment am y Doethion yn addoli Iesu, yn plygu o’i flaen ac yn rhoi eu hanrhegion iddo. Gofynnwch, 'Beth fyddech chi’n ei roi i Iesu pe byddech chi’n gallu rhoi rhywbeth iddo?'


<< Tudalen Hafan Adnodd Cydaddoli



Collective Worship Collective Worship Collective Worship Collective Worship