Collective Worship Resource Collective Worship Collective Worship

<< Tudalen Hafan Adnodd Cydaddoli



OED: Cynradd


THEMA: Sant Mathew: Cael te gyda chasglwr trethi


CEFNDIR:

Ar Fedi 21, mae Cristnogion yn cofio am Mathew, yr Apostol a’r Efengylwr. Yn y gwasanaeth yma, mae'r plant yn cael eu cyflwyno i stori Mathew, a’r hanes amdano’n cwrdd â Iesu am y tro cyntaf ac yn penderfynu dod yn un o’i ddilynwyr.

Fe allwch chi ddarllen hanes Mathew'n cwrdd â Iesu yn Mathew 9:9-13.


PARATOAD:

  • Casglwch ynghyd rai bywgraffiadau am bobl enwog. Ceisiwch gael amrywiaeth o rai hanesyddol a rhai cyfoes.
  • Ar fwrdd canolbwyntio, gosodwch gannwyll a Beibl wedi’i agor ar Efengyl Mathew.
  • Paratowch OHT yn dangos amlinelliad syml o dri bag arian – fe welwch un yma.


CYFLWYNIAD:

Dechreuwch trwy ddangos y bywgraffiadau rydych chi wedi’u casglu. Trafodwch beth yw bywgraffiad. Dewiswch un person y mae’r plant i gyd yn gyfarwydd ag ef – fe allai fod yn rhywun enwog, neu fe allai fod yn rhywun o’r ysgol. Pa fath o bethau fyddai’r plant yn eu cynnwys mewn bywgraffiad o’r unigolyn yma? Holwch y plant beth fydden nhw’n ei gynnwys mewn bywgraffiad ohonyn nhw’u hunain – sut bydden nhw’n hoffi cael eu cofio?

Symudwch i ganolbwyntio ar y Beibl sydd wedi’i agor ar Efengyl Mathew. Mae’r Efengylau fel bywgraffiadau o Iesu. Mae pedair Efengyl, a’r Efengyl sy’n dod gyntaf yn y Beibl yw Efengyl Mathew (er nad hon oedd yr un  gyntaf i gael ei hysgrifennu). Mae Medi 21 yn ddiwrnod arbennig pan fydd Cristnogion yn cofio am Sant Mathew. Wyddom ni ddim llawer iawn am Mathew ei hun. Dim ond ychydig o frawddegau sydd yn ei Efengyl amdano. Ond mae’r brawddegau hynny’n dweud yr hanes am sut y daeth Mathew yn un o ddilynwyr Iesu.


DATBLYGIAD - STORI MATHEW:

Cyn i Mathew gwrdd â Iesu, ei enw oedd Lefi. Doedd Lefi ddim yn boblogaidd am ei fod yn casglu trethi. Roedd hyn yn golygu ei fod yn gweithio i’r Rhufeiniaid.  Yn aml iawn, roedd casglwyr trethi yn farus iawn ac fe fydden nhw’n twyllo pobl trwy fynnu mwy o arian ganddyn nhw na’r hyn oedd arnyn nhw. Doedd Lefi ddim yn eithriad; a’r cyfan oedd ar ei feddwl oedd casglu cymaint ag a allai o arian, a dod yn ddyn cyfoethog iawn.

Un diwrnod daeth Iesu ato a gofyn iddo ddod i’w ddilyn. Roedd pawb wedi synnu fod Iesu hyd yn oed wedi siarad â Lefi. Doedden nhw ddim yn gallu deall pam roedd Iesu eisiau bod yn ffrindiau ag ef. Roedden nhw wedi synnu mwy pan welson nhw fod Mathew wedi cytuno i ddilyn Iesu. Derbyniodd Iesu wahoddiad Mathew i fynd i’w dy i gael pryd o fwyd gyda’i ffrindiau. (I nifer o’r rhai oedd yn gwylio hyn, roedd yn beth rhyfedd iawn - doedd neb yn hoffi casglwyr trethi, a neb eisiau dim i’w wneud â nhw.)

O’r diwrnod anghyffredin hwnnw, galwyd Lefi yn Mathew, ac ystyr yr enw yw ‘Anrheg yr Arglwydd'. Roedd Mathew wedi gadael ei hen fywyd, ei holl gyfoeth a’i rym, ac wedi rhoi’r gorau i bopeth er mwyn dod yn un o ddilynwyr Iesu. Fe roddodd weddill ei fywyd i ddweud wrth eraill am Iesu, ac fe ysgrifennodd hanes Iesu, dyna Efengyl Mathew. Hwn yw llyfr cyntaf y Testament Newydd.


MYFYRDOD:

Goleuwch gannwyll ar y bwrdd canolbwyntio a gosod y Beibl yn ei hymyl. Tafluniwch y llun OHT o’r tri bag arian.

Wrth i chi oleuo’r gannwyll, dywedwch...

'Fe fydd Mathew yn aml yn cael ei ddarlunio gyda’r symbol o dri bag arian, i’n hatgoffa ni mai casglwr trethi yr oedd pawb yn ei gasáu oedd e cyn iddo ddod yn un o ddilynwyr Iesu, a dod o hyd i dangnefedd.'


GWEDDI:

Gwna ni yn deilwng, Arglwydd,
i wasanaethu eraill
a thrwy ein cariad,
ddod â thangnefedd a llawenydd.


GWEITHGAREDDAU DILYNOL:

  • Pwy sy’n bwysig yn eich bywyd chi? Sut byddech chi’n dweud eu hanes? Beth fyddech chi eisiau i bobl eraill ei wybod amdanyn nhw?
  • Chwiliwch am symbolau sy’n cael eu cysylltu â Sant Mathew, ac â’r tri arall fu’n ysgrifennu’r Efengylau eraill.


<< Tudalen Hafan Adnodd Cydaddoli



Collective Worship Collective Worship Collective Worship Collective Worship